Croeso i Llanybydder
Mae Llanybydder yn dref farchnad ar yr afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am y marchnadoedd ceffylau sy'n digwydd ar ddydd Iau olaf pob mis a dywedir mai dyma'r mwyaf o'i fath yn Ewrop. Mae gennym hefyd y farchnad bwyd a chrefftau lleol misol ar yr un diwrnod. Mae hefyd yn gartref i Jen Jones (a’i Siop Bwthyn Cwiltiau a Blancedi Cymreig) sydd wedi ennill y Warant Frenhinol fel cyflenwr cwiltiau Cymreig hanesyddol, blancedi a thecstilau hynafol a vintage i’w Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru.
Mae ein cymuned yn weithgar iawn - gallwch ymuno â chlybiau amrywiol, cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon amrywiol, ymuno â grwpiau celf, a grwpiau canu. Os oes gennych chi amser rhydd ac eisiau dod yn rhan annatod o'r gymuned, mae digon o gyfleoedd i wirfoddoli i helpu gydag unrhyw beth o'r carnifal blynyddol neu glirio teithiau cerdded. Mae rhywbeth at ddant pob oed a gallu.
Dyfodol ein cymuned yw ein hieuenctid ac mae yna weithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Ein hysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Llanybydder sy'n darparu ar gyfer disgyblion rhwng 4-11 oed. Mae yna hefyd y Ganolfan Deulu ar gyfer cefnogi rhieni a gweithgareddau plant.
Rydym yn falch iawn o’n cymuned, mae’n lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.
Lleoedd i Fwyta
Edrychwch ar y rhestr o lefydd i fwyta.
Lleoedd i Aros
Edrychwch ar y rhestr o leoedd i aros.
Atyniadau
Edrychwch ar yr Atuniadau sydd gan Llanybydder i'w cynnig.
Beth Sydd Ymlaen
Edrychwch ar Beth Sydd Ymlaen yn Llanybydder.
Cyfeiriadur Busnes
Edrychwch ar y Busnesau yn Llanybydder.
Hanes
Edrychwch ar hanes pentref Llanybydder.